RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO
Cyllido addysg uwch
91Cymorth ariannol o dan adrannau 88 ac 89: atodol
(1)
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 88 neu 89 i ddarparu adnoddau ariannol i berson, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i ddymunoldeb peidio ag anghefnogi’r person hwnnw rhag cynnal neu ddatblygu cyllid o ffynonellau eraill.
(2)
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 88 neu 89 i ddarparu adnoddau ariannol i berson, rhaid i’r Comisiwn roi sylw (i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny yng ngoleuni unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill) i ddymunoldeb cynnal unrhyw nodweddion arbennig i unrhyw ddarparwr addysg drydyddol y darperir adnoddau ariannol ar gyfer ei weithgareddau.