RHAN 1LL+CFFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL

Dyletswyddau strategol y ComisiwnLL+C

9Hybu addysg drydyddol drwy gyfrwng y GymraegLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)annog‍ y galw am addysg drydyddol‍ Gymreig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg a chyfranogiad ynddi;

(b)cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod digon o addysg drydyddol‍ Gymreig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg i ateb‍ y galw;

(c)annog darparu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg—

(i)gan ddarparwyr cofrestredig yng Nghymru, a

(ii)gan bersonau eraill sy’n darparu addysg drydyddol a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ddynodi person i roi cyngor perthnasol i’r Comisiwn.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “cyngor perthnasol” yw cyngor a roddir at ddiben cynorthwyo’r Comisiwn i gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (1).

(4)Ni chaniateir i berson gael ei ddynodi o dan is-adran (2) ond os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y person yn addas i roi cyngor ar y canlynol—

(a)hybu, cynnal, datblygu a chynllunio addysg drydyddol a ddarperir yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg,

(b)hybu caffael a gwella sgiliau Cymraeg,

(c)cynnal, datblygu, cynllunio a darparu gweithgareddau i gefnogi caffael a gwella sgiliau Cymraeg, a

(d)cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru mewn perthynas â’r materion a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c).

(5)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes unrhyw berson sy’n addas i roi cyngor ar y materion a grybwyllir yn is-adran (4), neu

(b)os nad oes unrhyw berson sy’n cydsynio i gael ei ddynodi.

(6)Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir iddo gan berson sydd wedi ei ddynodi o dan is-adran (2).

(7)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi dynodiad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2).

(8)Caniateir i ddynodiad o dan is-adran (2) gael ei ddileu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 9(1) mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(h)

I3A. 9(1) mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)

I4A. 9(2)-(5) (7)(8) mewn grym ar 15.12.2022 gan O.S. 2022/1318, ergl. 2(b)

I5A. 9(6) mewn grym ar 1.4.2024 gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)