RHAN 1FFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL
Dyletswyddau strategol y Comisiwn
9Hybu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg
(1)
Rhaid i’r Comisiwn—
(a)
annog y galw am addysg drydyddol Gymreig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg a chyfranogiad ynddi;
(b)
cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod digon o addysg drydyddol Gymreig a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg i ateb y galw;
(c)
annog darparu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg—
(i)
gan ddarparwyr cofrestredig yng Nghymru, a
(ii)
gan bersonau eraill sy’n darparu addysg drydyddol a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru ddynodi person i roi cyngor perthnasol i’r Comisiwn.
(3)
Yn yr adran hon, ystyr “cyngor perthnasol” yw cyngor a roddir at ddiben cynorthwyo’r Comisiwn i gyflawni ei ddyletswyddau o dan is-adran (1).
(4)
Ni chaniateir i berson gael ei ddynodi o dan is-adran (2) ond os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y person yn addas i roi cyngor ar y canlynol—
(a)
hybu, cynnal, datblygu a chynllunio addysg drydyddol a ddarperir yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg,
(b)
hybu caffael a gwella sgiliau Cymraeg,
(c)
cynnal, datblygu, cynllunio a darparu gweithgareddau i gefnogi caffael a gwella sgiliau Cymraeg, a
(d)
cydlafurio rhwng darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru mewn perthynas â’r materion a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c).
(5)
Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys—
(a)
os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes unrhyw berson sy’n addas i roi cyngor ar y materion a grybwyllir yn is-adran (4), neu
(b)
os nad oes unrhyw berson sy’n cydsynio i gael ei ddynodi.
(6)
Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir iddo gan berson sydd wedi ei ddynodi o dan is-adran (2).
(7)
Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi dynodiad a wneir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2).
(8)
Caniateir i ddynodiad o dan is-adran (2) gael ei ddileu.