(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu cwrs addysg uwch penodol neu ddisgrifiad o gwrs addysg uwch at ddibenion yr adran hon (“cwrs cymwys”).
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddisgrifio cwrs drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—
(a)gofynion sydd i’w bodloni gan y cwrs;
(b)y disgrifiad o berson sy’n darparu’r cwrs;
(c)y cymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ato.
(3)Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol i berson (“darparwr”) mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y darparwr neu gan gorff sy’n cydlafurio at ddiben—
(a)darparu cwrs cymwys yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;
(b)darparu cwrs cymwys i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.
(4)Yn is-adran (3), ystyr “corff sy’n cydlafurio”, mewn perthynas â darparwr, yw person—
(a)y mae’r darparwr yn bwriadu talu iddo yr holl adnoddau ariannol, neu rai ohonynt, a ddarperir iddo o dan is-adran (3), a
(b)sy’n darparu, sy’n bwriadu darparu neu sydd wedi darparu cwrs cymwys (neu ran o’r cwrs hwnnw) ar ran y darparwr, neu sy’n cydlafurio, sy’n bwriadu cydlafurio neu sydd wedi cydlafurio â’r darparwr at y diben y darperir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer.
(5)Rhaid i’r Comisiwn roi ei gydsyniad cyn i’r darparwr wneud taliad i gorff sy’n cydlafurio (gweler adran 109 am ddarpariaeth bellach ynghylch cydsyniad y Comisiwn).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 89 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I2A. 89(1)(2) mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(p)
I3A. 89(3)-(5) mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(gg)