RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO
Cyllido addysg uwch
89Cymorth ariannol ar gyfer cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu cwrs addysg uwch penodol neu ddisgrifiad o gwrs addysg uwch at ddibenion yr adran hon (“cwrs cymwys”).
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddisgrifio cwrs drwy gyfeirio at (ymhlith pethau eraill)—
(a)
gofynion sydd i’w bodloni gan y cwrs;
(b)
y disgrifiad o berson sy’n darparu’r cwrs;
(c)
y cymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ato.
(3)
Caiff y Comisiwn ddarparu adnoddau ariannol i berson (“darparwr”) mewn cysylltiad â gwariant yr aed iddo, neu wariant yr eir iddo, gan y darparwr neu gan gorff sy’n cydlafurio at ddiben—
(a)
darparu cwrs cymwys yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;
(b)
darparu cwrs cymwys i bersonau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.
(4)
Yn is-adran (3), ystyr “corff sy’n cydlafurio”, mewn perthynas â darparwr, yw person—
(a)
y mae’r darparwr yn bwriadu talu iddo yr holl adnoddau ariannol, neu rai ohonynt, a ddarperir iddo o dan is-adran (3), a
(b)
sy’n darparu, sy’n bwriadu darparu neu sydd wedi darparu cwrs cymwys (neu ran o’r cwrs hwnnw) ar ran y darparwr, neu sy’n cydlafurio, sy’n bwriadu cydlafurio neu sydd wedi cydlafurio â’r darparwr at y diben y darperir yr adnoddau ariannol ar ei gyfer.
(5)
Rhaid i’r Comisiwn roi ei gydsyniad cyn i’r darparwr wneud taliad i gorff sy’n cydlafurio (gweler adran 109 am ddarpariaeth bellach ynghylch cydsyniad y Comisiwn).