RHAN 3LL+CSICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO

Polisi cyllido’r ComisiwnLL+C

87Polisi ar bwerau cyllidoLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad o’i bolisi ar sut y mae’n bwriadu arfer ei bwerau cyllido.

(2)Wrth lunio’r datganiad, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r egwyddor y dylai penderfyniadau am ddarparu neu sicrhau adnoddau ariannol gael eu gwneud mewn ffordd sy’n dryloyw.

(3)Rhaid i’r Comisiwn gadw’r datganiad o dan adolygiad a chaiff y Comisiwn ei ddiwygio.

(4)Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.

(5)Pwerau cyllido’r Comisiwn yw ei bwerau i ddarparu neu sicrhau adnoddau ariannol o dan adrannau 88, 89, 97, 101, 103, 104 a 105

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 87(1)(5) mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(ee)

I3A. 87(1) mewn grym ar 5.4.2025 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2025/432, ergl. 2(gg)

I4A. 87(2) mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(o)

I5A. 87(3)(4) mewn grym ar 5.4.2025 gan O.S. 2025/432, ergl. 2(gg)

I6A. 87(5) mewn grym ar 5.4.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2025/432, ergl. 3(b)

I7A. 87(5) mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2025/966, ergl. 3