RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO
Polisi cyllido’r Comisiwn
87Polisi ar bwerau cyllido
(1)
Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi datganiad o’i bolisi ar sut y mae’n bwriadu arfer ei bwerau cyllido.
(2)
Wrth lunio’r datganiad, rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r egwyddor y dylai penderfyniadau am ddarparu neu sicrhau adnoddau ariannol gael eu gwneud mewn ffordd sy’n dryloyw.
(3)
Rhaid i’r Comisiwn gadw’r datganiad o dan adolygiad a chaiff y Comisiwn ei ddiwygio.
(4)
Cyn cyhoeddi’r datganiad neu ddatganiad diwygiedig, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
(5)
Pwerau cyllido’r Comisiwn yw ei bwerau i ddarparu neu sicrhau adnoddau ariannol o dan adrannau 88, 89, 97, 101, 103, 104 a 105