RHAN 3SICRHAU ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL A’U CYLLIDO
Cyllido’r Comisiwn
85Pŵer Gweinidogion Cymru i gyllido’r Comisiwn
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu unrhyw gyllid i’r Comisiwn y maent yn ystyried ei fod yn briodol er mwyn arfer swyddogaethau’r Comisiwn.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu bod cyllid o dan is-adran (1) yn ddarostyngedig i delerau ac amodau a gaiff (ymhlith pethau eraill)—
(a)
galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol ad-dalu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, symiau a dalwyd ganddynt os na chydymffurfir ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau y talwyd y symiau yn ddarostyngedig iddynt;
(b)
ei gwneud yn ofynnol talu llog mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd swm sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru yn unol ag unrhyw un neu ragor o’r telerau a’r amodau yn parhau i fod heb ei dalu;
(c)
galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ymrwymo i gytundeb canlyniadau â pherson y mae’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol iddo.
(3)
Yn is-adran (2)(c), ystyr “cytundeb canlyniadau” yw cytundeb rhwng—
(a)
y Comisiwn, a
(b)
y person y mae’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol iddo,
sy’n nodi’r gweithgareddau i’w cyflawni gan y person hwnnw at ddibenion cyfrannu at weithredu cynllun strategol y Comisiwn a gymeradwyir o dan adran 15.
(4)
Caiff cytundeb canlyniadau fod yn ofynnol o dan is-adran (2)(c)—
(a)
ym mhob achos pan fo’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol;
(b)
ym mhob achos pan fo’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig;
(c)
yn yr achosion hynny pan fo’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol i bersonau penodedig neu i bersonau o ddisgrifiad penodedig;
(d)
yn yr achosion hynny pan fo’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol at ddibenion penodedig neu at ddibenion o ddisgrifiad penodedig;
(e)
yn yr achosion hynny pan fo’r Comisiwn yn bwriadu darparu adnoddau ariannol uwchlaw swm penodedig neu islaw’r swm hwnnw.
(5)
Yn is-adran (4) , ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn y telerau a’r amodau.