(1)Caiff Gweinidogion Cymru, yn dilyn cais gan ddarparwr addysg drydyddol o fewn is-adran (2), ddynodi’r darparwr at ddibenion yr adran hon.
(2)Mae darparwr addysg drydyddol o fewn yr is-adran hon yn ddarparwr—
(a)sy’n darparu addysg drydyddol yng Nghymru, ond
(b)na fyddai (oni bai am y dynodiad) yn cael ei ystyried yn sefydliad at ddibenion y Ddeddf hon.
(3)Mae darparwr addysg drydyddol a ddynodir o dan yr adran hon, oni bai bod y dynodiad wedi ei dynnu’n ôl, i’w drin, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu odani, fel pe bai’n sefydliad.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)gwneud ceisiadau am ddynodiad;
(b)gwneud dynodiadau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i wneud dynodiad);
(c)tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl);
(d)effaith tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth i ddarparwr y mae ei ddynodiad wedi ei dynnu’n ôl barhau i gael ei drin fel pe bai’n sefydliad at ddibenion rhagnodedig er gwaethaf is-adran (3)).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 83 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I2A. 83 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(cc)
I3A. 83 mewn grym ar 5.4.2025 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2025/432, ergl. 2(ee)