RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 4CYFFREDINOL
83Dynodi darparwyr addysg drydyddol eraill
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, yn dilyn cais gan ddarparwr addysg drydyddol o fewn is-adran (2), ddynodi’r darparwr at ddibenion yr adran hon.
(2)
Mae darparwr addysg drydyddol o fewn yr is-adran hon yn ddarparwr—
(a)
sy’n darparu addysg drydyddol yng Nghymru, ond
(b)
na fyddai (oni bai am y dynodiad) yn cael ei ystyried yn sefydliad at ddibenion y Ddeddf hon.
(3)
Mae darparwr addysg drydyddol a ddynodir o dan yr adran hon, oni bai bod y dynodiad wedi ei dynnu’n ôl, i’w drin, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon neu odani, fel pe bai’n sefydliad.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
gwneud ceisiadau am ddynodiad;
(b)
gwneud dynodiadau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i wneud dynodiad);
(c)
tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl);
(d)
effaith tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth i ddarparwr y mae ei ddynodiad wedi ei dynnu’n ôl barhau i gael ei drin fel pe bai’n sefydliad at ddibenion rhagnodedig er gwaethaf is-adran (3)).