RHAN 2LL+CCOFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 3LL+CDARPARIAETHAU GORFODI A GWEITHDREFNOL PELLACH

CyfarwyddydauLL+C

82Effaith cyfarwyddydau a’u gorfodiLL+C

(1)Os yw’r Comisiwn neu Weinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu o dan y Rhan hon, rhaid i’r corff llywodraethu gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

(2)Mae’r cyfarwyddyd yn orfodadwy drwy waharddeb yn dilyn cais gan y person a roddodd y cyfarwyddyd.

(3)Os yw’r corff llywodraethu yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i’r person a roddodd y cyfarwyddyd roi hysbysiad i’r corff llywodraethu sy’n datgan a yw’r person wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd (neu â gofyniad penodol yn y cyfarwyddyd).

(4)Rhaid i gyfarwyddyd a roddir o dan y Rhan hon fod yn ysgrifenedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 82 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 82 mewn grym ar 5.4.2025 gan O.S. 2025/432, ergl. 2(dd)