RHAN 1LL+CFFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL

Dyletswyddau strategol y ComisiwnLL+C

8Cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesolLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu addysg drydyddol ac ymchwil mewn ffordd sy’n cyfrannu at ddatblygu economi gynaliadwy ac arloesol yng Nghymru.

(2)Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, rhaid i’r Comisiwn roi sylw (ymhlith pethau eraill) i ofynion rhesymol diwydiant, masnach, cyllid, y proffesiynau, cyflogwyr eraill a gweithwyr.

(3)At ddiben is-adran (1), mae economi gynaliadwy yn economi lle y mae anghenion y presennol wedi eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 8 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(g)

I3A. 8 mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)