RHAN 1FFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL

Dyletswyddau strategol y Comisiwn

8Cyfrannu at economi gynaliadwy ac arloesol

(1)

Rhaid i’r Comisiwn hybu addysg drydyddol ac ymchwil mewn ffordd sy’n cyfrannu at ddatblygu economi gynaliadwy ac arloesol yng Nghymru.

(2)

Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, rhaid i’r Comisiwn roi sylw (ymhlith pethau eraill) i ofynion rhesymol diwydiant, masnach, cyllid, y proffesiynau, cyflogwyr eraill a gweithwyr.

(3)

At ddiben is-adran (1), mae economi gynaliadwy yn economi lle y mae anghenion y presennol wedi eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.