RHAN 2LL+CCOFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 3LL+CDARPARIAETHAU GORFODI A GWEITHDREFNOL PELLACH

Y weithdrefn rhybuddio ac adolyguLL+C

76Hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddioLL+C

(1)Cyn rhoi i gorff llywodraethu hysbysiad neu gyfarwyddyd y mae’r adran hon yn gymwys iddo, rhaid i’r Comisiwn roi hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu.

(2)Rhaid i’r hysbysiad rhybuddio—

(a)nodi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig,

(b)datgan y rhesymau dros fwriadu ei roi,

(c)pennu’r cyfnod pan gaiff y corff llywodraethu gyflwyno sylwadau ynghylch yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd arfaethedig (“y cyfnod penodedig”), a

(d)pennu’r ffordd y caniateir i’r sylwadau hynny gael eu cyflwyno.

(3)Ni chaiff y cyfnod penodedig fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir yr hysbysiad.

(4)Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y corff llywodraethu yn unol â’r hysbysiad rhybuddio wrth benderfynu pa un ai i roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd.

(5)Ar ôl penderfynu pa un ai i roi’r hysbysiad neu’r cyfarwyddyd, rhaid i’r Comisiwn hysbysu’r corff llywodraethu am ei benderfyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 76 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 76 mewn grym ar 5.4.2025 gan O.S. 2025/432, ergl. 2(y)