RHAN 2LL+CCOFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 3LL+CDARPARIAETHAU GORFODI A GWEITHDREFNOL PELLACH

Y weithdrefn rhybuddio ac adolyguLL+C

75Cymhwyso adrannau 76 i 78LL+C

(1)Mae adrannau 76 i 78 yn gymwys—

(a)i gyfarwyddyd o dan adran 39 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus);

(b)i hysbysiad o dan adran 47(2)(b) (gwrthod y datganiad terfyn ffioedd arfaethedig);

(c)i hysbysiad o dan adran 47(4)(b) (gwrthod yr amrywiad arfaethedig i ddatganiad terfyn ffioedd neu’r datganiad arfaethedig arall yn ei le);

(d)i gyfarwyddyd o dan adran 73(4) (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydweithredu).

(2)Ond nid yw’r adrannau hynny yn gymwys i gyfarwyddyd nad yw’n darparu ond ar gyfer dirymu cyfarwyddyd cynharach.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 75 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 75 mewn grym ar 5.4.2025 gan O.S. 2025/432, ergl. 2(x)