RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 3DARPARIAETHAU GORFODI A GWEITHDREFNOL PELLACH
Mynediad i wybodaeth a chyfleusterau
74Pwerau mynd i mewn ac arolygu
(1)
At ddiben arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 36, 38, 51, 53 neu 54(1), caiff person awdurdodedig—
(a)
mynd i fangre darparwr cofrestredig;
(b)
edrych ar ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.
(2)
At ddiben arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 51, 53 neu 54(1), caiff person awdurdodedig—
(a)
mynd i fangre darparwr allanol;
(b)
edrych ar ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.
(3)
Yn is-adrannau (1)(b) a (2)(b), mae cyfeiriadau—
(a)
at ddogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;
(b)
at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—
(i)
dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a
(ii)
dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond y gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.
(4)
Mae’r pŵer a roddir gan is-adrannau (1)(b) a (2)(b) yn cynnwys pŵer—
(a)
i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau;
(b)
i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);
(c)
i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni.
(5)
Ni chaniateir i bŵer a roddir gan yr adran hon gael ei arfer ond ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol—
(a)
i gorff llywodraethu’r darparwr cofrestredig neu’r darparwr allanol y mae’r person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer mewn perthynas â’i fangre, a
(b)
i gorff llywodraethu unrhyw ddarparwr cofrestredig y mae’r darparwr hwnnw neu’r darparwr allanol hwnnw yn darparu ar ei ran yr addysg drydyddol y mae arfer y swyddogaeth berthnasol a grybwyllir yn is-adran (1) neu (2) yn ymwneud â hi.
(6)
Nid yw is-adran (5) yn gymwys i arfer pŵer os yw’r person awdurdodedig wedi ei fodloni—
(a)
bod yr achos yn achos brys, neu
(b)
y byddai cydymffurfio â’r is-adran honno yn tanseilio diben arfer y pŵer.
(7)
Yn yr adran hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan y Comisiwn (pa un ai’n gyffredinol neu’n benodol) i arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon.
(8)
Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon, rhaid i berson awdurdodedig, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos copi o awdurdodiad y person o dan is-adran (7).
(9)
O ran y pwerau a roddir gan yr adran hon—
(a)
caniateir iddynt gael eu harfer ar adegau rhesymol yn unig;
(b)
ni chaniateir iddynt gael eu harfer i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth ac eithrio ar adeg resymol.
(10)
Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i annedd heb gytundeb y meddiannydd.
(11)
Yn yr adran hon, ystyr “mangre” yw mangre yng Nghymru neu Loegr.