RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 3DARPARIAETHAU GORFODI A GWEITHDREFNOL PELLACH

Mynediad i wybodaeth a chyfleusterau

73Dyletswydd i gydweithredu

(1)

Rhaid i gorff llywodraethu darparwr allanol sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 51, 53 neu 54(1) unrhyw wybodaeth, unrhyw gynhorthwy ac unrhyw fynediad i gyfleusterau, systemau ac offer y darparwr allanol sy’n rhesymol ofynnol gan y person at ddiben arfer y swyddogaeth (gan gynnwys at ddiben arfer unrhyw bŵer o dan adran 74).

(2)

Rhaid i gorff llywodraethu darparwr addysg bellach neu hyfforddiant a gyllidir o dan adran 97 sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 51 neu 53 unrhyw wybodaeth, unrhyw gynhorthwy ac unrhyw fynediad i gyfleusterau, systemau ac offer y darparwr sy’n rhesymol ofynnol gan y person at ddiben arfer y swyddogaeth (gan gynnwys at ddiben arfer unrhyw bŵer o dan adran 74).

(3)

Yn is-adran (2)—

ystyr “y corff llywodraethu” (“the governing body”) yw’r person sy’n gyfrifol am reoli’r darparwr;

nid yw “darparwr addysg bellach neu hyfforddiant” (“provider of further education or training”) yn cynnwys darparwr cofrestredig.

(4)

Os yw’r Comisiwn wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1) neu (2), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at ddiben sicrhau y darperir gwybodaeth, cynhorthwy neu fynediad fel y’i disgrifir yn is-adran (1) neu (2) (fel y bo’n briodol).

(5)

Am ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddyd o dan is-adran (4), gweler adrannau 75 i 78.