RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 3DARPARIAETHAU GORFODI A GWEITHDREFNOL PELLACH

Ymyrryd yn ymddygiad sefydliadau addysg bellach

70Pwerau i ymyrryd

(1)

Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu ragor o’r seiliau dros ymyrryd yn bodoli mewn perthynas â darparwr addysg drydyddol yng Nghymru sy’n sefydliad o fewn y sector addysg bellach, caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r darparwr.

(2)

Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.

(3)

Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon—

(a)

cynnwys darpariaeth sy’n cael effaith i ddiswyddo pob un neu unrhyw un neu ragor o aelodau corff llywodraethu’r darparwr;

(b)

cynnwys darpariaeth sy’n cael effaith i benodi aelodau newydd o’r corff hwnnw os oes swyddi gwag (sut bynnag y maent wedi codi);

(c)

pennu camau sydd i’w cymryd (neu nad ydynt i’w cymryd) gan y corff llywodraethu at ddiben ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd.

(4)

Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (3)(c) (ymhlith pethau eraill) ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu—

(a)

arfer pwerau o dan adran 5(2)(b) i (f) ac (h) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (mccc 7) i gydlafurio â’r personau hynny ac ar y telerau hynny a bennir yn y cyfarwyddyd;

(b)

pasio penderfyniad o dan adran 27A(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13) (“Deddf 1992”) i’r corff gael ei ddiddymu ar ddyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(5)

Cymerir at ddibenion adran 27A(1) o Ddeddf 1992 fod corff llywodraethu, y mae cyfarwyddyd fel y’i crybwyllir yn is-adran (4)(b) wedi ei roi iddo, wedi cydymffurfio ag adran 27 o’r Ddeddf honno cyn pasio’r penderfyniad sy’n ofynnol gan y cyfarwyddyd.

(6)

Caniateir i gyfarwyddydau gael eu rhoi o dan yr adran hon er gwaethaf unrhyw ddeddfiad sy’n gwneud arfer pŵer neu gyflawni dyletswydd yn ddibynnol ar farn corff llywodraethu.

(7)

Ni chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo corff llywodraethu o dan yr adran hon i ddiswyddo aelod o staff.

(8)

Ond nid yw is-adran (7) yn atal Gweinidogion Cymru, pan fônt yn ystyried y gall fod yn briodol diswyddo aelod o staff y mae gan y corff llywodraethu bŵer i’w ddiswyddo o dan erthyglau llywodraethu’r darparwr, rhag rhoi unrhyw gyfarwyddydau i’r corff llywodraethu o dan yr adran hon sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y rhoddir effaith i’r gweithdrefnau sy’n gymwys i ystyried yr achos dros ddiswyddo’r aelod hwnnw o staff mewn perthynas â’r aelod hwnnw o staff.

(9)

Mae penodi aelod o gorff llywodraethu o dan yr adran hon yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud yn unol ag offeryn llywodraethu ac erthyglau llywodraethu’r darparwr o dan sylw.