RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 2SICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD

Arolygu addysg bellach neu hyfforddiant etc.

66Adroddiadau blynyddol

(1)

Rhaid i adroddiad blynyddol y Prif Arolygydd sy’n ofynnol gan adran 21(1)(a) o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18) gynnwys adroddiad ar arfer swyddogaethau’r Prif Arolygydd o dan y Bennod hon.

(2)

Mae’r pŵer a roddir gan yr adran honno i wneud adroddiadau eraill yn cynnwys pŵer i wneud adroddiadau mewn cysylltiad â materion sy’n ymwneud ag addysg neu hyfforddiant a ddisgrifir yn adran 57(1).