RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 2SICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD

Arolygu addysg bellach neu hyfforddiant etc.

65Arolygon ac astudiaethau

(1)

Caiff y Comisiwn gyfarwyddo’r Prif Arolygydd i gynnal—

(a)

arolwg o Gymru, neu o ardal o fewn Cymru a bennir yn y cyfarwyddyd, mewn cysylltiad â materion a bennir yn y cyfarwyddyd sy’n ymwneud â pholisi ynglŷn ag addysg bellach neu hyfforddiant;

(b)

astudiaeth gymharol o’r ddarpariaeth a wneir y tu allan i Gymru mewn cysylltiad â materion a bennir yn y cyfarwyddyd sy’n ymwneud ag addysg bellach neu hyfforddiant.

(2)

Caiff y Prif Arolygydd, heb gael ei gyfarwyddo i wneud hynny, gynnal arolwg neu astudiaeth o’r math hwnnw.