RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 2SICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD

Arolygu addysg bellach neu hyfforddiant etc.

63Arolygiadau ardal

(1)

Caiff y Prif Arolygydd arolygu—

(a)

ansawdd ac argaeledd disgrifiad o addysg neu hyfforddiant, mewn ardal benodedig yng Nghymru, ar gyfer personau sy’n 15 oed neu’n hŷn,

(b)

y safonau a gyrhaeddir gan y rheini sy’n cael yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw, ac

(c)

a yw’r adnoddau ariannol sy’n cael eu rhoi ar gael i’r rheini sy’n darparu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw yn cael eu rheoli’n effeithlon ac yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n darparu gwerth am arian.

(2)

Rhaid i’r Prif Arolygydd gynnal arolygiad o’r math a ddisgrifir yn is-adran (1) (“arolygiad ardal”) os gofynnir iddo wneud hynny—

(a)

gan y Comisiwn;

(b)

gan Weinidogion Cymru.

(3)

Yr addysg neu’r hyfforddiant a gaiff fod yn destun arolygiad ardal yw unrhyw addysg neu hyfforddiant a ddisgrifir yn adran 57 neu sydd o fewn cylch gwaith y Prif Arolygydd o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad arall.

(4)

Ond ni chaniateir i’r pŵer i’w gwneud yn ofynnol i’r Prif Arolygydd gynnal arolygiad ardal gael ei arfer ond—

(a)

yn achos y Comisiwn, mewn cysylltiad â disgrifiad o addysg neu hyfforddiant a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo;

(b)

yn achos Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â disgrifiad o addysg neu hyfforddiant ac eithrio addysg neu hyfforddiant a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.

(5)

Caniateir i arolygiad ardal gael ei estyn er mwyn ystyried—

(a)

y modd y mae unrhyw adnoddau ariannol wedi eu cymhwyso gan berson a ddisgrifir yn is-adran (6) mewn cysylltiad â’r addysg neu’r hyfforddiant a arolygir, a

(b)

a yw unrhyw adnoddau ariannol o’r fath wedi eu cymhwyso mewn ffordd sy’n darparu gwerth am arian.

(6)

Y personau a grybwyllir yn is-adran (5) yw—

(a)

y Comisiwn;

(b)

Gweinidogion Cymru;

(c)

awdurdod lleol.

(7)

Rhaid i’r personau a ganlyn ddarparu unrhyw wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol gan y Prif Arolygydd mewn cysylltiad â’r arolygiad—

(a)

personau sy’n gyfrifol am reoli unrhyw ddarparwr addysg neu hyfforddiant sy’n destun arolygiad ardal;

(b)

unrhyw awdurdod lleol o fewn yr ardal sy’n destun arolygiad ardal;

(c)

y Comisiwn;

(d)

Gweinidogion Cymru.

(8)

Ar ôl cwblhau arolygiad ardal, rhaid i’r Prif Arolygydd gyhoeddi adroddiad.

(9)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau—

(a)

gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â’r ddyletswydd i ddarparu gwybodaeth a osodir gan yr adran hon;

(b)

ei gwneud yn ofynnol i adroddiadau o dan is-adran (8) gael eu cyhoeddi cyn diwedd cyfnod a bennir yn y rheoliadau.

(10)

Am ddarpariaeth ynghylch adrodd ar ddosbarthiadau chwech y canfuwyd eu bod yn peri pryder mewn arolygiad ardal, gweler adrannau 44C a 44E o Ddeddf Addysg 2005 (p. 18).

(11)

Yn is-adran (1)—

ystyr “penodedig” (“specified”)—

(a)

yn achos arolygiad ardal y gofynnir amdano o dan is-adran (2), yw wedi ei bennu yn y cais;

(b)

yn achos arolygiad ardal a gynhelir gan y Prif Arolygydd ac eithrio drwy gais, yw wedi ei bennu gan y Prif Arolygydd;

mae “personau sy’n 15 oed” (“persons who are aged 15”) yn cynnwys personau, y darperir addysg ar eu cyfer mewn ysgol, a fydd yn cyrraedd yr oedran hwnnw yn y flwyddyn ysgol gyfredol.