Rhagolygol
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, roi swyddogaethau eraill i’r Prif Arolygydd mewn cysylltiad â’r addysg neu’r hyfforddiant a ddisgrifir yn adran 57(1).
(2)Caiff y swyddogaethau a roddir gan y rheoliadau gynnwys (ymhlith pethau eraill) swyddogaethau mewn cysylltiad â hyfforddi athrawon, darlithwyr, hyfforddwyr neu bersonau eraill sy’n ymwneud â darparu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw, neu mewn cysylltiad â hyfforddiant ar gyfer y personau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 61 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)