RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 2SICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD
Arolygu addysg bellach neu hyfforddiant etc.
60Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion Cymru
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant a ddisgrifir yn adran 57(1) nas cyllidir gan y Comisiwn neu nas sicrheir fel arall ganddo.
(2)
Rhaid i’r Prif Arolygydd sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael gwybod yn rheolaidd—
(a)
am ansawdd yr addysg neu’r hyfforddiant y mae’r adran hon yn gymwys iddi neu iddo,
(b)
am y safonau a gyrhaeddir gan y rheini sy’n cael yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw, ac
(c)
a yw’r adnoddau ariannol sy’n cael eu rhoi ar gael i’r rheini sy’n darparu’r addysg a’r hyfforddiant yn cael eu rheoli’n effeithlon ac yn cael eu defnyddio er mwyn darparu gwerth am arian.
(3)
Pan fydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i’r Prif Arolygydd—
(a)
rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ar y materion hynny a bennir gan Weinidogion Cymru sy’n ymwneud ag addysg neu hyfforddiant y mae’r adran hon yn gymwys iddi neu iddo;
(b)
arolygu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw, neu’r dosbarth hwnnw o addysg neu hyfforddiant, y mae’r adran hon yn gymwys iddi neu iddo, a bennir gan Weinidogion Cymru;
(c)
adrodd ar ganlyniad arolygiad a gynhelir o dan yr adran hon.