RHAN 1FFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL
Dyletswyddau strategol y Comisiwn
6Hybu gwaith ymchwil ac arloesi
(1)
Rhaid i’r Comisiwn hybu—
(a)
gwneud gwaith ymchwil ac arloesi yng Nghymru;
(b)
gwelliant parhaus yn ansawdd gwaith ymchwil ac arloesi a wneir gan bersonau perthnasol, a chystadleurwydd y gwaith ymchwil ac arloesi hwnnw o’i gymharu â gwaith ymchwil ac arloesi a wneir gan bersonau eraill;
(c)
cydlafurio ar waith ymchwil ac arloesi, yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y byd rhwng—
(i)
personau perthnasol;
(ii)
personau perthnasol ac eraill;
(d)
gwneud gwaith ymchwil ac arloesi a gweithgareddau sy’n ymwneud â gwaith ymchwil ac arloesi gan bersonau perthnasol drwy gyfrwng y Gymraeg.
(2)
Yn is-adran (1), ystyr “person perthnasol” yw—
(a)
darparwr a bennir mewn rheoliadau o dan adran 105(4);
(b)
corff sy’n cydlafurio o fewn yr ystyr a roddir gan adran 105(4) wrth wneud gwaith ymchwil ac arloesi y mae cydsyniad a roddir gan y Comisiwn o dan adran 105(5) mewn effaith mewn cysylltiad ag ef.