RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 2SICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD

Arolygu addysg bellach neu hyfforddiant etc.

59Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth a chyngor i’r Comisiwn

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag addysg neu hyfforddiant a ddisgrifir yn adran 57(1) ac a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo.

(2)

Rhaid i’r Prif Arolygydd sicrhau bod y Comisiwn yn cael gwybod yn rheolaidd—

(a)

am ansawdd yr addysg neu’r hyfforddiant y mae’r adran hon yn gymwys iddi neu iddo,

(b)

am y safonau a gyrhaeddir gan y rheini sy’n cael yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw, ac

(c)

a yw’r adnoddau ariannol sy’n cael eu rhoi ar gael i’r rheini sy’n darparu’r addysg a’r hyfforddiant yn cael eu rheoli’n effeithlon ac yn cael eu defnyddio er mwyn darparu gwerth am arian.

(3)

Pan fydd y Comisiwn yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i’r Prif Arolygydd—

(a)

rhoi cyngor i’r Comisiwn ar y materion hynny a bennir gan y Comisiwn sy’n ymwneud ag addysg neu hyfforddiant y mae’r adran hon yn gymwys iddi neu iddo;

(b)

arolygu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw, neu’r dosbarth hwnnw o addysg neu hyfforddiant, y mae’r adran hon yn gymwys iddi neu iddo, a bennir gan y Comisiwn;

(c)

adrodd ar ganlyniad arolygiad a gynhelir o dan yr adran hon.