RHAN 2LL+CCOFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 2LL+CSICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD

Asesu ansawdd mewn addysg uwchLL+C

56Arfer swyddogaethau asesu addysg uwch gan gorff dynodedigLL+C

(1)Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth—

(a)ynghylch dynodi corff i arfer y swyddogaethau asesu;

(b)ynghylch goruchwylio’r corff dynodedig gan y Comisiwn;

(c)i’r corff godi ffioedd.

(2)At ddibenion y Bennod hon, “y swyddogaethau asesu” yw swyddogaethau’r Comisiwn o dan adran 54 (asesu ansawdd addysg uwch).

(3)Pan fo corff wedi ei ddynodi o dan Atodlen 3 i arfer y swyddogaethau asesu, nid yw’r swyddogaethau o dan adran 54 yn peidio â bod yn arferadwy gan y Comisiwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 56 mewn grym ar 5.4.2025 gan O.S. 2025/432, ergl. 2(u)