RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 2SICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD

Asesu ansawdd mewn addysg uwch

56Arfer swyddogaethau asesu addysg uwch gan gorff dynodedig

(1)

Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth—

(a)

ynghylch dynodi corff i arfer y swyddogaethau asesu;

(b)

ynghylch goruchwylio’r corff dynodedig gan y Comisiwn;

(c)

i’r corff godi ffioedd.

(2)

At ddibenion y Bennod hon, “y swyddogaethau asesu” yw swyddogaethau’r Comisiwn o dan adran 54 (asesu ansawdd addysg uwch).

(3)

Pan fo corff wedi ei ddynodi o dan Atodlen 3 i arfer y swyddogaethau asesu, nid yw’r swyddogaethau o dan adran 54 yn peidio â bod yn arferadwy gan y Comisiwn.