RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 2SICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD

Asesu ansawdd mewn addysg uwch

55Cynlluniau gweithredu yn dilyn asesiadau o dan adran 54

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys i asesiadau a gynhelir o dan adran 54(1)(a) a (b) ac a gyhoeddir yn unol ag adran 54(4).

(2)

Rhaid i gorff llywodraethu darparwr cofrestredig sy’n darparu’r addysg uwch a asesir, neu y mae’r addysg uwch wedi ei darparu ar ei ran (yn ôl y digwydd)—

(a)

llunio datganiad ysgrifenedig o’r camau gweithredu y mae’n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni’r adroddiad ac o fewn pa gyfnod y mae’n bwriadu cymryd y camau hynny;

(b)

anfon y datganiad i’r Comisiwn ac, os cynhaliwyd yr asesiad gan gorff dynodedig, i’r corff dynodedig.

(3)

Rhaid i’r corff llywodraethu sy’n gwneud y datganiad ei gyhoeddi.

(4)

Mae cydymffurfio â’r dyletswyddau o dan is-adrannau (2) a (3) i’w drin fel pe bai’n amod cofrestru parhaus sy’n gymwys i’r darparwr cofrestredig at ddibenion adran 39 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus) ac adran 41 (datgofrestru).