RHAN 2LL+CCOFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 2LL+CSICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD

Swyddogaethau sicrhau ansawdd cyffredinolLL+C

53Adolygiadau sy’n berthnasol i ansawdd addysg drydyddolLL+C

Caiff y Comisiwn gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae’n ystyried eu bod yn berthnasol i ansawdd addysg drydyddol, neu i gwrs penodol o addysg drydyddol—

(a)a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr cofrestredig,

(b)a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo, neu

(c)a ddarparir yng Nghymru ac nad yw’n dod o fewn paragraff (a) na (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 53 mewn grym ar 5.4.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2025/432, ergl. 8(1) (ynghyd ag ergl. 8(4)(6))