RHAN 2LL+CCOFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 2LL+CSICRHAU ANSAWDD A GWELLA ANSAWDD

Swyddogaethau sicrhau ansawdd cyffredinolLL+C

52Cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad ag ansawdd addysg drydyddolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i addysg drydyddol, neu i gwrs penodol o addysg drydyddol—

(a)a ddarperir gan, neu ar ran, darparwr cofrestredig,

(b)a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo, neu

(c)a ddarperir yng Nghymru ac nad yw’n dod o fewn paragraff (a) na (b).

(2)Caiff y Comisiwn ddarparu, neu wneud trefniadau ar gyfer darparu, cyngor neu gynhorthwy arall i unrhyw berson at ddiben—

(a)gwella ansawdd yr addysg drydyddol neu’r cwrs, neu

(b)atal ansawdd yr addysg drydyddol neu’r cwrs rhag dod yn annigonol.

(3)At ddibenion yr adran hon, mae ansawdd addysg drydyddol, neu ansawdd cwrs addysg drydyddol, yn annigonol os nad yw’n ddigonol i ddiwallu anghenion rhesymol y rheini sy’n cael yr addysg neu sy’n ymgymryd â’r cwrs.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 52 mewn grym ar 5.4.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2025/432, ergl. 8(1) (ynghyd ag ergl. 8(4)(6))