RHAN 1FFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL
Dyletswyddau strategol y Comisiwn
5Hybu gwelliant parhaus mewn addysg drydyddol
(1)
Rhaid i’r Comisiwn hybu gwelliant parhaus yn ansawdd addysg drydyddol Gymreig.
(2)
Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, rhaid i’r Comisiwn roi sylw (ymhlith pethau eraill)—
(a)
i bwysigrwydd sicrhau bod aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol yn gallu darparu addysg drydyddol o ansawdd uchel;
(b)
i ofynion rhesymol aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol am ddatblygiad proffesiynol parhaus;
(c)
i bwysigrwydd barn dysgwyr ynghylch ansawdd yr addysg drydyddol a gânt.
(3)
Yn yr adran hon, “aelodau o’r gweithlu addysg drydyddol” yw—
(a)
athrawon personau sy’n cael addysg drydyddol,
(b)
personau sy’n darparu cymorth i’r athrawon hynny, ac
(c)
personau sy’n darparu cymorth i ddysgwyr i gymryd rhan mewn addysg drydyddol.