RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 1COFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
Datganiadau terfyn ffioedd
49Dilysrwydd contractau
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i gontract sy’n darparu ar gyfer talu ffioedd cwrs rheoleiddiedig i ddarparwr addysg drydyddol, gan berson cymhwysol ac mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â chwrs cymhwysol, sydd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.
(2)
At ddibenion unrhyw hawliau ac atebolrwyddau sy’n codi o dan y contract, ac unrhyw drafodion mewn cysylltiad â’r hawliau a’r atebolrwyddau hynny, mae’r contract i’w drin fel pe bai’n darparu ar gyfer talu ffioedd mewn swm sy’n cyfateb i’r terfyn ffioedd cymwys.
(3)
Ac eithrio fel y’i darperir yn is-adran (2), nid yw’r contract yn ddi-rym nac yn anorfodadwy o ganlyniad i ddarparu ar gyfer talu ffioedd sydd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys.