(1)Pan fo’r Comisiwn wedi cymeradwyo datganiad terfyn ffioedd, rhaid i gorff llywodraethu’r darparwr y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef gyhoeddi’r datganiad (ac unrhyw amrywiad sydd wedi ei gymeradwy o’r datganiad neu unrhyw ddatganiad arall sydd wedi ei gymeradwyo yn ei le).
(2)Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i’r corff llywodraethu roi sylw i’r angen i sicrhau bod y datganiad ar gael yn hawdd i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I2A. 48 mewn grym ar 5.4.2025 gan O.S. 2025/432, ergl. 2(t)