RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 1COFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

Datganiadau terfyn ffioedd

48Cyhoeddi datganiad terfyn ffioedd cymeradwy

(1)

Pan fo’r Comisiwn wedi cymeradwyo datganiad terfyn ffioedd, rhaid i gorff llywodraethu’r darparwr y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef gyhoeddi’r datganiad (ac unrhyw amrywiad sydd wedi ei gymeradwy o’r datganiad neu unrhyw ddatganiad arall sydd wedi ei gymeradwyo yn ei le).

(2)

Wrth gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i’r corff llywodraethu roi sylw i’r angen i sicrhau bod y datganiad ar gael yn hawdd i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr.