RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 1COFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
Datganiadau terfyn ffioedd
46Gofynion ar gyfer datganiad terfyn ffioedd
(1)
Mae datganiad terfyn ffioedd yn ddogfen sy’n cydymffurfio â’r adran hon.
(2)
Rhaid i ddatganiad terfyn ffioedd—
(a)
pennu terfyn ffioedd, neu
(b)
darparu ar gyfer penderfynu terfyn ffioedd,
mewn perthynas â phob cwrs cymhwysol ac mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd berthnasol.
(3)
Caiff datganiad terfyn ffioedd bennu, neu ddarparu ar gyfer penderfynu, terfynau ffioedd gwahanol mewn perthynas â chyrsiau gwahanol ac mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd perthnasol gwahanol.
(4)
Rhaid i ddatganiad terfyn ffioedd bennu’r dyddiad y mae’n dechrau cael effaith a rhaid i unrhyw amrywiad i ddatganiad terfyn ffioedd bennu’r dyddiad y mae’r amrywiad yn dechrau cael effaith.
(5)
Yn y Rhan hon—
(a)
mae terfyn ffioedd, mewn perthynas â chwrs, yn derfyn na chaiff y ffioedd sy’n daladwy i’r darparwr addysg drydyddol gan berson cymhwysol, mewn cysylltiad â’r person yn ymgymryd â’r cwrs, fynd uwch ei law;
(b)
mae blwyddyn academaidd berthnasol, mewn perthynas â chwrs, yn flwyddyn academaidd sy’n gymwys i’r cwrs, ac y mae ffioedd yn daladwy i’r darparwr mewn cysylltiad â hi, ac sy’n dechrau ar ddiwrnod pan yw’r darpariaethau cymwys yn y datganiad terfyn ffioedd yn cael effaith.
(6)
Pan fo datganiad terfyn ffioedd yn pennu terfyn ffioedd mewn perthynas â blwyddyn a chwrs, ni chaniateir i’r terfyn ffioedd a bennir fynd uwchlaw pa swm bynnag a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru at ddibenion yr adran hon (“yr uchafswm”).
(7)
Pan fo datganiad terfyn ffioedd yn darparu ar gyfer penderfynu terfyn ffioedd mewn perthynas â blwyddyn a chwrs, rhaid i’r datganiad bennu nad yw’r terfyn ffioedd a benderfynir yn unol â’r datganiad i fynd uwchlaw’r uchafswm.