RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 1COFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
Adolygiadau o benderfyniadau cofrestru
45Adolygiadau o benderfyniadau cofrestru
Caiff corff llywodraethu darparwr addysg drydyddol wneud cais am adolygiad gan yr adolygydd penderfyniadau o unrhyw un neu ragor o’r penderfyniadau a ganlyn—
(a)
penderfyniad gan y Comisiwn i wrthod cofrestru’r darparwr mewn categori o’r gofrestr o dan adran 25;
(b)
penderfyniad gan y Comisiwn i osod neu i amrywio amod cofrestru parhaus penodol ar y darparwr o dan adran 29;
(c)
penderfyniad gan y Comisiwn i ddileu’r darparwr o gategori o’r gofrestr o dan adran 41;
(d)
penderfyniad gan y Comisiwn o ran y dyddiad a bennir o dan adran 42(6) neu adran 43(7) neu (8) fel y dyddiad y mae dileu’r darparwr o gategori o’r gofrestr yn cymryd effaith.