RHAN 2LL+CCOFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 1LL+CCOFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

DatgofrestruLL+C

44Newid categori cofrestru heb gaisLL+C

Pan fo darparwr cofrestredig wedi ei ddileu o gategori o’r gofrestr o dan adran 41(3) neu 43(5), caiff y Comisiwn gofrestru’r darparwr mewn categori arall heb gais o dan adran 25(4)(a)—

(a)os yw corff llywodraethu’r darparwr yn cydsynio i hynny,

(b)os yw’n parhau i fod yn ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru,

(c)os yw’n darparu’r math o addysg drydyddol sy’n ymwneud â’r categori arall, neu os darperir yr addysg honno ar ei ran,

(d)os yw’n bodloni’r amodau cofrestru cychwynnol sy’n gymwys iddo mewn cysylltiad â’r cofrestriad yn y categori arall (gweler adran 27), ac

(e)os nad yw cofrestru yn y categori arall wedi ei wahardd gan ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 25(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 44 mewn grym ar 5.4.2025 gan O.S. 2025/432, ergl. 2(q)