RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 1COFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
Datgofrestru
44Newid categori cofrestru heb gais
Pan fo darparwr cofrestredig wedi ei ddileu o gategori o’r gofrestr o dan adran 41(3) neu 43(5), caiff y Comisiwn gofrestru’r darparwr mewn categori arall heb gais o dan adran 25(4)(a)—
(a)
os yw corff llywodraethu’r darparwr yn cydsynio i hynny,
(b)
os yw’n parhau i fod yn ddarparwr addysg drydyddol yng Nghymru,
(c)
os yw’n darparu’r math o addysg drydyddol sy’n ymwneud â’r categori arall, neu os darperir yr addysg honno ar ei ran,
(d)
os yw’n bodloni’r amodau cofrestru cychwynnol sy’n gymwys iddo mewn cysylltiad â’r cofrestriad yn y categori arall (gweler adran 27), ac
(e)
os nad yw cofrestru yn y categori arall wedi ei wahardd gan ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 25(5).