RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 1COFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
Datgofrestru
43Datgofrestru’n wirfoddol a datgofrestru gyda chydsyniad
(1)
Rhaid i’r Comisiwn ddileu darparwr cofrestredig o gategori o’r gofrestr—
(a)
os yw corff llywodraethu’r darparwr yn gwneud cais i’r Comisiwn i’r darparwr gael ei ddileu o’r categori hwnnw o’r gofrestr, a
(b)
os yw’r cais yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir o dan is-adran (6).
(2)
Ond os yw’r cais o dan is-adran (1)(a) yn pennu ei fod wedi ei gyfuno â chais o dan adran 25(4)(a) i gofrestru mewn categori arall, nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys oni bai bod yr amod yn is-adran (3) yn gymwys neu fod y ddau amod yn is-adran (4) yn gymwys.
(3)
Yr amod yn yr is-adran hon yw ei bod yn ofynnol i’r Comisiwn gofrestru’r darparwr yn y categori arall yn unol â’r cais o dan adran 25(4)(a).
(4)
Yr amodau yn yr is-adran hon yw—
(a)
y byddai’n ofynnol i’r Comisiwn gofrestru’r darparwr yn y categori arall yn unol â’r cais o dan adran 25(4)(a) pe na bai am effaith adran 25(4)(e) mewn perthynas â’r categorïau cofrestru sy’n destun y cais o dan is-adran (1)(a) ac adran 25(4)(a), a
(b)
y byddai’n ofynnol i’r Comisiwn gofrestru’r darparwr yn y categori arall os yw’r darparwr yn cael ei ddileu o’r categori y mae’r cais o dan is-adran (1)(a) wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef.
(5)
Caiff y Comisiwn ddileu darparwr cofrestredig o gategori o’r gofrestr os yw corff llywodraethu’r darparwr yn cydsynio i hynny.
(6)
Caiff y Comisiwn benderfynu—
(a)
ffurf cais o dan is-adran (1),
(b)
yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cais neu sydd i’w darparu gydag ef, ac
(c)
y ffordd y mae cais i’w chyflwyno.
(7)
Rhaid i’r Comisiwn hysbysu corff llywodraethu’r darparwr am y dyddiad pan fydd y darparwr yn cael ei ddileu o’r categori o’r gofrestr o dan yr adran hon (“y dyddiad dileu”).
(8)
Caiff y Comisiwn amrywio’r dyddiad dileu ar unrhyw adeg cyn y dyddiad hwnnw drwy hysbysu corff llywodraethu’r darparwr.
(9)
Ni chaniateir i ddilead o dan yr adran hon gymryd effaith ar unrhyw adeg—
(a)
pan allai cais am adolygiad o dan adran 45(d) gael ei ddwyn mewn cysylltiad â’r penderfyniad i ddileu, neu
(b)
pan fo adolygiad neu benderfyniad gan y Comisiwn yn dilyn adolygiad o’r fath yn yr arfaeth.
(10)
Ond nid yw hynny yn atal dilead rhag cymryd effaith os yw corff llywodraethu’r darparwr yn hysbysu’r Comisiwn nad yw’n bwriadu gwneud cais am adolygiad.
(11)
Pan fo is-adran (9) yn peidio ag atal dilead rhag cymryd effaith ar y dyddiad a bennir o dan is-adran (7), rhaid i’r Comisiwn benderfynu dyddiad yn y dyfodol pan fydd y dilead yn cymryd effaith.
(12)
Ond mae hynny yn ddarostyngedig i’r hyn sydd wedi cael ei benderfynu gan y Comisiwn yn dilyn unrhyw adolygiad o dan adran 45(d) mewn cysylltiad â’r penderfyniad i ddileu.
(13)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dileu darparwr o gategori o’r gofrestr o dan yr adran hon.
(14)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (13) gynnwys darpariaeth sy’n trin y darparwr fel pe bai’n ddarparwr cofrestredig yn y categori hwnnw at y dibenion hynny a bennir gan y rheoliadau.
(15)
Rhaid i’r Comisiwn—
(a)
cynnal rhestr o ddarparwyr addysg drydyddol sydd wedi eu dileu o gategorïau o’r gofrestr o dan yr adran hon,
(b)
cynnwys yn y rhestr honno gyfeiriad at unrhyw reoliadau a wneir o dan is-adran (13), ac
(c)
rhoi’r rhestr ar gael i’r cyhoedd drwy’r cyfrwng y mae’r Comisiwn yn ystyried ei fod yn briodol.