Rhaid i’r Comisiwn—
(a)annog unigolion sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, yn benodol y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, i gymryd rhan mewn addysg drydyddol, a
(b)annog cyflogwyr yng Nghymru i gymryd rhan yn narpariaeth addysg drydyddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I2A. 4 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(c)
I3A. 4 mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)