RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 1COFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

Monitro a gorfodi amodau cofrestru

39Cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus

(1)

Caiff y Comisiwn roi cyfarwyddyd i gorff llywodraethu darparwr addysg drydyddol o dan yr adran hon os yw wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio ag amod cofrestru parhaus.

(2)

Yn achos methiant, neu fethiant tebygol, i gydymffurfio ag amod cofrestru parhaus, caiff y Comisiwn gyfarwyddo’r corff llywodraethu i gydymffurfio â’r amod.

(3)

Yn achos methiant i gydymffurfio ag amod terfyn ffioedd, caiff y Comisiwn hefyd, fel dewis arall i gyfarwyddyd a ddisgrifir yn is-adran (2), neu’n ychwanegol ato, gyfarwyddo’r corff llywodraethu i ad-dalu ffioedd uwchlaw’r terfyn a dalwyd i’r darparwr addysg drydyddol.

(4)

Caiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu camau sydd i’w cymryd (neu nad ydynt i’w cymryd) gan y corff llywodraethu at ddiben cydymffurfio â’r amod.

(5)

Caiff cyfarwyddyd o’r math a ddisgrifir yn is-adran (3) bennu’r modd y mae ad-dalu’r ffioedd uwchlaw’r terfyn i fod i gael ei roi ar waith, neu y caniateir iddo gael ei roi ar waith.

(6)

Os yw’r Comisiwn yn rhoi cyfarwyddyd o dan yr adran hon, rhaid iddo—

(a)

rhoi copi o’r cyfarwyddyd i Weinidogion Cymru;

(b)

cyhoeddi’r cyfarwyddyd.

(7)

Mae “ffioedd uwchlaw’r terfyn” yn ffioedd cwrs rheoleiddiedig i’r graddau y mae’r ffioedd hynny yn mynd uwchlaw’r terfyn ffioedd cymwys (fel y’i meintiolir at ddibenion y ddyletswydd o dan adran 32 y mae’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â hi).

(8)

Am ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 75 i 78.