RHAN 2LL+CCOFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 1LL+CCOFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

Amodau cofrestruLL+C

33Amodau cofrestru parhaus mandadol ar gyfle cyfartalLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod amodau cofrestru parhaus pob darparwr‍ cofrestredig yn cynnwys amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol cyflawni canlyniadau y gellir eu mesur i hyrwyddo pob un o’r nodau yn is-adran (2).

(2)Y nodau yw—

(a)cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn addysg drydyddol berthnasol a ddarperir‍ gan, neu ar ran, y darparwr cofrestredig;

(b)cadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd cyrsiau addysg drydyddol berthnasol a ddarperir‍ gan, neu ar ran, y darparwr cofrestredig;

(c)lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn addysg drydyddol berthnasol a ddarperir‍ gan, neu ar ran, y darparwr cofrestredig rhwng grwpiau gwahanol o fyfyrwyr a bennir yn yr amodau, pan fo’r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol;

(d)darparu cymorth i fyfyrwyr sy’n gorffen cyrsiau addysg drydyddol‍ berthnasol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr cofrestredig sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i barhau â’u haddysg drydyddol, dod o hyd i gyflogaeth neu ddechrau busnes.

(3)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 33 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(u)

I3A. 33 mewn grym ar 5.4.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2025/432, ergl. 3(a)