RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 1COFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
Amodau cofrestru
33Amodau cofrestru parhaus mandadol ar gyfle cyfartal
(1)
Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod amodau cofrestru parhaus pob darparwr cofrestredig yn cynnwys amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol cyflawni canlyniadau y gellir eu mesur i hyrwyddo pob un o’r nodau yn is-adran (2).
(2)
Y nodau yw—
(a)
cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn addysg drydyddol berthnasol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr cofrestredig;
(b)
cadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd cyrsiau addysg drydyddol berthnasol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr cofrestredig;
(c)
lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn addysg drydyddol berthnasol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr cofrestredig rhwng grwpiau gwahanol o fyfyrwyr a bennir yn yr amodau, pan fo’r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol;
(d)
darparu cymorth i fyfyrwyr sy’n gorffen cyrsiau addysg drydyddol berthnasol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr cofrestredig sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i barhau â’u haddysg drydyddol, dod o hyd i gyflogaeth neu ddechrau busnes.
(3)
Yn yr adran hon—
ystyr “addysg drydyddol berthnasol” (“relevant tertiary education”) yw cyrsiau addysg drydyddol a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru ac o fath sy’n ymwneud â chategori o’r gofrestr y mae’r darparwr o dan sylw wedi ei gofrestru ynddo;
“grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol” (“under-represented groups”) yw grwpiau a bennir yn yr amodau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg drydyddol berthnasol o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.