(1)Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod amodau cofrestru parhaus pob darparwr cofrestredig yn cynnwys amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol cyflawni canlyniadau y gellir eu mesur i hyrwyddo pob un o’r nodau yn is-adran (2).
(2)Y nodau yw—
(a)cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn addysg drydyddol berthnasol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr cofrestredig;
(b)cadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd cyrsiau addysg drydyddol berthnasol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr cofrestredig;
(c)lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn addysg drydyddol berthnasol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr cofrestredig rhwng grwpiau gwahanol o fyfyrwyr a bennir yn yr amodau, pan fo’r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol;
(d)darparu cymorth i fyfyrwyr sy’n gorffen cyrsiau addysg drydyddol berthnasol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr cofrestredig sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i barhau â’u haddysg drydyddol, dod o hyd i gyflogaeth neu ddechrau busnes.
(3)Yn yr adran hon—
ystyr “addysg drydyddol berthnasol” (“relevant tertiary education”) yw cyrsiau addysg drydyddol a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru ac o fath sy’n ymwneud â chategori o’r gofrestr y mae’r darparwr o dan sylw wedi ei gofrestru ynddo;
“grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol” (“under-represented groups”) yw grwpiau a bennir yn yr amodau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg drydyddol berthnasol o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.