(1)Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod amodau cofrestru parhaus pob darparwr addysg drydyddol sydd wedi ei gofrestru mewn categori yn cynnwys—
(a)amod sy’n ymwneud ag ansawdd y math o addysg drydyddol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr y mae’r categori cofrestru yn ymwneud ag ef;
(b)amod sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli’r darparwr (gan gynnwys ei drefniadau rheoli ariannol);
(c)amod sy’n ymwneud â chynaliadwyedd ariannol y darparwr;
(d)amod sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd trefniadau’r darparwr ar gyfer cefnogi a hybu lles ei fyfyrwyr a’i staff;
(e)amod sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd unrhyw drefniadau dilysu sydd yn eu lle;
(f)amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr hysbysu’r Comisiwn am unrhyw newid y mae’n dod yn ymwybodol ohono sy’n effeithio ar gywirdeb yr wybodaeth a gynhwysir yng nghofnod y darparwr yn y gofrestr;
(g)amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr, os yw wedi cael hysbysiad o dan adran 126(1), gael cynllun diogelu dysgwyr yn ei le sydd wedi ei gymeradwyo gan y Comisiwn (o dan adran 126(3) neu (5)) ar neu cyn y dyddiad a bennir yn yr amod a rhoi effaith i’r cynllun;
(h)amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr gydymffurfio â’r gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a gyhoeddir o dan adran 129(1) neu unrhyw god diwygiedig a gyhoeddir o dan adran 129(3);
(i)amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr roi sylw i gyngor neu ganllawiau a roddir gan y Comisiwn i’r corff (naill ai yn benodol neu i bersonau yn gyffredinol) wrth arfer swyddogaethau’r Comisiwn o dan y Ddeddf hon;
(j)amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr ddarparu i’r Comisiwn, neu i berson sydd wedi ei awdurdodi gan y Comisiwn, unrhyw wybodaeth, unrhyw gynhorthwy ac unrhyw fynediad i gyfleusterau, systemau ac offer y darparwr sy’n rhesymol ofynnol gan y Comisiwn at ddiben arfer swyddogaethau’r Comisiwn o dan y Rhan hon.
(2)Yn is-adran (1)(e), ystyr “trefniadau dilysu” yw trefniadau rhwng y darparwr cofrestredig a darparwr addysg arall y mae’r darparwr cofrestredig yn dyfarnu cymhwyster odanynt i fyfyriwr yn y darparwr arall neu’n awdurdodi’r darparwr arall i ddyfarnu cymhwyster odanynt ar ei ran.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)
I2A. 31 mewn grym ar 5.4.2025 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2025/432, ergl. 2(f)
I3A. 31(1)(a)-(f)(i)(j)(2) mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(s)