RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 1COFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

Amodau cofrestru

31Amodau cofrestru parhaus mandadol ar gyfer pob darparwr cofrestredig

(1)

Rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod amodau cofrestru parhaus pob darparwr addysg drydyddol sydd wedi ei gofrestru mewn categori yn cynnwys—

(a)

amod sy’n ymwneud ag ansawdd y math o addysg drydyddol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr y mae’r categori cofrestru yn ymwneud ag ef;

(b)

amod sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli’r darparwr (gan gynnwys ei drefniadau rheoli ariannol);

(c)

amod sy’n ymwneud â chynaliadwyedd ariannol y darparwr;

(d)

amod sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd trefniadau’r darparwr ar gyfer cefnogi a hybu lles ei fyfyrwyr a’i staff;

(e)

amod sy’n ymwneud ag effeithiolrwydd unrhyw drefniadau dilysu sydd yn eu lle;

(f)

amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr hysbysu’r Comisiwn am unrhyw newid y mae’n dod yn ymwybodol ohono sy’n effeithio ar gywirdeb yr wybodaeth a gynhwysir yng nghofnod y darparwr yn y gofrestr;

(g)

amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr, os yw wedi cael hysbysiad o dan adran 126(1), gael cynllun diogelu dysgwyr yn ei le sydd wedi ei gymeradwyo gan y Comisiwn (o dan adran 126(3) neu (5)) ar neu cyn y dyddiad a bennir yn yr amod a rhoi effaith i’r cynllun;

(h)

amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr gydymffurfio â’r gofynion sydd wedi eu cynnwys yn y Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a gyhoeddir o dan adran 129(1) neu unrhyw god diwygiedig a gyhoeddir o dan adran 129(3);

(i)

amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr roi sylw i gyngor neu ganllawiau a roddir gan y Comisiwn i’r corff (naill ai yn benodol neu i bersonau yn gyffredinol) wrth arfer swyddogaethau’r Comisiwn o dan y Ddeddf hon;

(j)

amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu’r darparwr ddarparu i’r Comisiwn, neu i berson sydd wedi ei awdurdodi gan y Comisiwn, unrhyw wybodaeth, unrhyw gynhorthwy ac unrhyw fynediad i gyfleusterau, systemau ac offer y darparwr sy’n rhesymol ofynnol gan y Comisiwn at ddiben arfer swyddogaethau’r Comisiwn o dan y Rhan hon.

(2)

Yn is-adran (1)(e), ystyr “trefniadau dilysu” yw trefniadau rhwng y darparwr cofrestredig a darparwr addysg arall y mae’r darparwr cofrestredig yn dyfarnu cymhwyster odanynt i fyfyriwr yn y darparwr arall neu’n awdurdodi’r darparwr arall i ddyfarnu cymhwyster odanynt ar ei ran.