RHAN 2LL+CCOFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

PENNOD 1LL+CCOFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL

Amodau cofrestruLL+C

30Amodau cymesur etc.LL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn sicrhau—

(a)bod y gofynion a bennir o dan adran 27(2), a

(b)bod yr holl amodau cofrestru parhaus,

yn gymesur ag asesiad y Comisiwn o’r risgiau a berir.

(2)Yng ngoleuni ei ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn gadw’r holl amodau cofrestru parhaus o dan adolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 30(1) mewn grym ar 4.9.2023 gan O.S. 2023/919, ergl. 2(k)

I3A. 30(2) mewn grym ar 5.4.2025 gan O.S. 2025/432, ergl. 2(e)