RHAN 2COFRESTRU A RHEOLEIDDIO DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
PENNOD 1COFRESTRU DARPARWYR ADDYSG DRYDYDDOL
Amodau cofrestru
30Amodau cymesur etc.
(1)
Rhaid i’r Comisiwn sicrhau—
(a)
bod y gofynion a bennir o dan adran 27(2), a
(b)
bod yr holl amodau cofrestru parhaus,
yn gymesur ag asesiad y Comisiwn o’r risgiau a berir.
(2)
Yng ngoleuni ei ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn gadw’r holl amodau cofrestru parhaus o dan adolygiad.