xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CFFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL

Dyletswyddau strategol y ComisiwnLL+C

3Hybu cyfle cyfartalLL+C

(1)Rhaid i’r Comisiwn hybu—

(a)cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn addysg drydyddol‍ Gymreig;

(b)cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn gwaith ymchwil ac arloesi a wneir yng Nghymru;

(c)cadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd cyrsiau addysg drydyddol‍ Gymreig;

(d)lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn addysg drydyddol‍ Gymreig rhwng grwpiau gwahanol o fyfyrwyr pan fo’r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol;

(e)darparu cymorth i fyfyrwyr sy’n gorffen cyrsiau addysg drydyddol‍ Gymreig sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i barhau â’u haddysg drydyddol, dod o hyd i gyflogaeth neu ddechrau busnes.

(2)Yn yr adran hon, “grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol” yw—

(a)mewn perthynas ag addysg drydyddol, grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg drydyddol‍ Gymreig o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol, a

(b)mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi, grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn gwaith ymchwil ac arloesi a wneir yng Nghymru o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 148(2)

I2A. 3 mewn grym ar 4.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/919, ergl. 3(b)

I3A. 3 mewn grym ar 1.4.2024 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/919, ergl. 4(a)