RHAN 1FFRAMWAITH STRATEGOL AR GYFER ADDYSG DRYDYDDOL AC YMCHWIL

Dyletswyddau strategol y Comisiwn

3Hybu cyfle cyfartal

(1)

Rhaid i’r Comisiwn hybu—

(a)

cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn addysg drydyddol‍ Gymreig;

(b)

cynyddu cyfranogiad, gan bersonau sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, mewn gwaith ymchwil ac arloesi a wneir yng Nghymru;

(c)

cadw myfyrwyr sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol hyd at ddiwedd cyrsiau addysg drydyddol‍ Gymreig;

(d)

lleihau unrhyw fylchau o ran cyrhaeddiad mewn addysg drydyddol‍ Gymreig rhwng grwpiau gwahanol o fyfyrwyr pan fo’r gwahaniaethau yn codi oherwydd ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol;

(e)

darparu cymorth i fyfyrwyr sy’n gorffen cyrsiau addysg drydyddol‍ Gymreig sy’n aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i barhau â’u haddysg drydyddol, dod o hyd i gyflogaeth neu ddechrau busnes.

(2)

Yn yr adran hon, “grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol” yw—

(a)

mewn perthynas ag addysg drydyddol, grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg drydyddol‍ Gymreig o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol, a

(b)

mewn perthynas ag ymchwil ac arloesi, grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol mewn gwaith ymchwil ac arloesi a wneir yng Nghymru o ganlyniad i ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd neu sefydliadol.